Croeso i BYG! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Erthyglau Diweddaraf

Gweld popeth »

Digwyddiadau

Hidlo erthyglau yn ôl ardal:

 

Gweld popeth »

Pôl Diweddaraf

Beth yw eich barn am y BYG?

Eisiau dweud dy ddweud? Mewngofnodi i gyflwyno dy bleidlais

Archifau »

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Mewnfudo a Cheisio Lloches



Mewnfudo a Cheisio Lloches y DU a Chymru

Mae mewnfudo yn cyfeirio at symudiad pobl o un genedl-wladwriaeth i’r llall ac mae'n bwnc gwleidyddol mawr yn y DU. Mewnfudwr ydy person sy’n gadael y wlad sy’n gartref iddynt er mwyn setlo dros dro neu’n barhaol mewn gwlad arall

  • Yn 2011, roedd tua 13% o boblogaeth Cymru a Lloegr wedi cael eu geni dramor, tua 7.5 miliwn o bobl
  • Mae Cymru yn dod o dan gyfraith a safonau mewnfudo'r DU ond Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am y gwasanaethau mae unigolion yn ei dderbyn yng Nghymru mewn perthynas ag addysg, tai a gofal iechyd
  • Mae mewnfudo yn broses heriol sy'n gallu newid bywyd, yn aml yn golygu gadael teulu a ffrindiau ar ôl
  • Mae mewnfudwyr angen addasu i gyfreithiau newydd, diwylliant newydd, iaith newydd a chwilio am waith a chartref
  • Mewn rhai achosion, efallai bydd mewnfudwyr yn wynebu hiliaeth, gelyniaeth a gwrthdaro yn eu gwlad newydd
  • Mae statws mewnfudwyr yn bwysig wrth geisio am driniaeth yn yr ysbyty, agor cyfrif banc, hawlio budd-daliadau nawdd cymdeithasol, cael tŷ gan yr awdurdod lleol, addysg, trwydded briodi neu swydd

Mathau o ymwelwyr i Gymru a mewnfudwyr

Mae bod yn fewnfudwr yn gallu golygu sawl peth gwahanol yn dibynnu ar yr amgylchiadau, rhesymau am fod yn y wlad yma a pa mor hir mae unigolyn yn bwriadu aros.

Ymfudwr economaidd ydy rhywun sydd wedi symud i wlad arall i weithio.

Dinesyddion Ewropeaidd

Os wyt ti'n dod o Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu wlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac efo pasport neu gerdyn adnabod dilys, yna mae gen ti hawl i ddod i mewn, gweithio neu fyw yn y DU neu Gymru.

Mae'r gwledydd yma yn cynnwys:

  • Awstria, Gwlad Belg, Croatia, Cyprus, Y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, Y Ffindir, Yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, Twrci a'r Swistir
  • Er nad yw Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy ddim yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd (UE), mae eu dinasyddion efo'r un hawliau â dinasyddion yr UE i ddod i mewn, byw a gweithio yn y DU
  • Mae'n rhaid i ddinasyddion Bwlgaria a Rwmania barhau i gael caniatâd i weithio yn y DU

Ymwelwyr

  • Os yw person o wlad sydd ddim yn yr Undeb Ewropeaidd neu wlad AEE yn bwriadu aros yn y DU neu Gymru am lai nag chwe mis yna maent yn cael eu hystyried yn ymwelydd
  • Efallai bod ymwelwyr cyffredinol i Gymru a'r DU yn dwristiaid, neu angen fisa i gymryd rhan mewn addysg neu waith
  • Bydd hyd yr ymweliad yn cael ei stampio ar eu pasport
  • Os ydynt yn bwriadu aros yn hirach yna maent yn cael eu hystyried fel mewnfudwyr ac angen gwneud cais am fisa mewnfudiad
  • Mae yna rai amgylchiadau pan fydd fisas ymwelydd cyffredinol a mewnfudwr yn cael ei wrthod

Ceiswyr Lloches

Mae ceiswyr lloches yn aml yn ffoi o erledigaeth, artaith, troseddau hawliau dynol neu wrthdaro a rhyfel yn eu gwlad nhw.

  • Mae'r DU a Llywodraeth Cymru yn falch o gadw at Gonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i amddiffyn ceiswyr lloches sydd yn dod i'r wlad yma yn chwilio am loches
  • Yn 2009 roedd yna 2,322 o geiswyr lloches yn byw yng Nghymru. Mae Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith o 16 o 'Ddinasoedd Lloches' ledled y DU yn darparu croeso a diogelwch i bobl sy'n chwilio am loches o ryfel ac erledigaeth

Ond mae'n bwysig gwneud cais am loches cyn gynted â phosib ar ôl dod i mewn i'r DU, neu gall fod yn anodd cael cefnogaeth,

  • Rhaid i gais am loches gael ei gyflwyno i'r Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd yn y Swyddfa Gartref iddynt wneud penderfyniad cychwynnol os gall unigolyn aros yn y DU
  • Tra bydd cais am loches yn cael ei gysidro mae cefnogaeth ar gael gan Asiantaeth Ffiniau'r DU
  • Mae perchennog achos (person sy'n gallu cael ei gysylltu ynglŷn â'r cais) yn cael ei benodi i egluro'r broses
  • Bydd cerdyn cofrestru cais (ARC) yn cael ei roi fel modd o adnabyddiaeth, gyda manylion personol a llun
  • Bydd Cytundeb Cymorth Lloches yn cael ei wneud os ydy teulu neu unigolyn ddim yn gallu cynnal eu hunain a chyrraedd y gofynion cymhwyster
  • Mae Cytundeb Cymorth Lloches yn gosod allan yr amodau o aros mewn cysylltiad â'r perchennog achos ac Asiantaeth Ffiniau'r DU ac unrhyw lety neu gefnogaeth ariannol sy'n cael ei roi
  • Nid yw ceiswyr lloches yn cael gweithio tra bod y cais i fyw yn y DU yn cael ei ystyried

Pobl Ifanc sy’n Geiswyr Lloches

  • Mae pobl ifanc yn aml yn cyrraedd gyda'u teuluoedd sy'n geiswyr lloches ac yn aros gyda nhw tra bydd y Swyddfa Gartref yn ystyried y cais
  • Ond mae yna tua 3,000 o blant yn cyrraedd y DU ar ben eu hunain yn chwilio am loches yn flynyddol, sydd wedi cael eu gwahanu o'u teuluoedd neu ddim efo teulu bellach
  • Mae'r bobl ifanc yma sydd ar ben eu hunain yn gorfod gwneud cais i'r Swyddfa Gartref yn yr un modd ag y mae oedolion
  • Gall hyn fod yn brofiad dryslyd a trawmatig i blant a phobl ifanc yn arbennig rhai sy'n ffoi o ryfeloedd, helbul a thrais yng ngwlad eu hunain, ddim yn deall iaith, arferion a diwylliant y DU
  • Gall fod yn arbennig o ddryslyd a thrawmatig i blant a phobl ifanc sy'n cyrraedd ar ben eu hunain sydd efallai angen cefnogaeth ychwanegol gan y perchennog achos
  • Mae gan holl blant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches, un a'i efo'u teulu neu ar ben eu hunain, yr hawl i dderbyn addysg llawn amser yn y DU rhwng 5 a 16 oed
  • Mae Llywodraeth Cymru efo ymrwymiad i'r CCUHP ac yn cadw at hawliau pobl ifanc yng Nghymru ac mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy'n ceisio lloches

Mae'r Swyddfa Gartref yn ystyried holl geisiadau ceiswyr lloches i fyw yn y wlad yma o fewn chwe mis, ac os ydynt yn llwyddiannus byddant yn cychwyn eu bywydau yn y DU.

Mae rhywun sydd wedi methu cael lloches yn rhywun sydd wedi cael cais sy'n aflwyddiannus ac sy'n disgwyl i ddychwelyd i'w gwlad wreiddiol, yn wirfoddol neu'n orfodol.

Ffoaduriaid

Os yw'r Swyddfa Gartref yn ystyried cais lloches i'r DU fel un llwyddiannus yna mae'r person yn cyflawni 'statws ffoadur'.

  • Mae ffoadur yn cael aros yn y wlad ar ôl profi y byddant yn wynebu erledigaeth (persecution) petaent yn mynd adref (hil; crefydd; cenedl; barn wleidyddol; rhywioldeb; tueddfryd)

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn elusen annibynnol sy'n helpu holl ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, yn cynnig cyngor arbenigol a chefnogaeth wyneb i wyneb, ar-lein ac ar y ffôn. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau yn ymwneud â lloches neu'r gefnogaeth sydd efallai ar gael i ti yna cysyllta â nhw cyn gynted â phosib.

Mewnfudwyr Anghyfreithlon

  • Mewnfudwr anghyfreithlon ydy rhywun sydd wedi cyrraedd o wlad arall a heb hysbysebu eu hunain i'r awdurdodau yn fwriadol
  • Gall mewnfudwr anghyfreithlon hefyd fod yn rhywun sydd wedi aros yn hirach nag chwe mis gyda fisa ymwelydd cyffredinol heb gael caniatâd i ymestyn y gwyliau
  • Os ydynt yn cael eu dal yna gallant gael eu harestio, eu cadw yn y ddalfa a chael eu gyrru yn ôl i'w gwlad wreiddiol

Masnachu Mewn Pobl

Mae masnachu mewn pobl yn broblem gynyddol yn y DU, Ewrop a gweddill y byd. Mae'r heddlu yn amcangyfrif bod yna tua 4,000 o blant, phobl ifanc ac oedolion sy'n ddioddefwyr masnachu mewn pobl yn y DU.

  • Os yw unigolyn wedi dod i mewn i'r DU neu Gymru trwy dwyll, gorfodaeth neu fygythiad o drais gan rywun arall, yna maent yn cael eu hystyried fel dioddefwr Masnachu Mewn Pobl
  • Mae hyn yn ffurf o gaethwasiaeth (slavery) modern pan fydd person yn cael ei gymryd yn erbyn ei ewyllys neu drwy dwyll, i mewn i wlad arall i gael ei ecsbloetio gan ei ddaliwr
  • Weithiau maent wedi cael eu cipio yn greulon yn erbyn eu hewyllys, dan ddylanwad cyffuriau, yn cael eu curo, treisio'n rhywiol neu wedi'u cam-drin
  • Weithiau mae unigolion wedi cael eu cludo i mewn i'r DU gyda'r addewid o fywyd gwell, yn cael eu twyllo i dalu arian neu gytuno i dalu cyflogau i’r dalwyr unwaith maent yn cael gwaith
  • Pan fydd dioddefwyr masnachu mewn pobl yn y DU, maent yn cael eu gorfodi i weithio fel gweision, caethweision neu'n cael eu gorfodi i mewn i gamdriniaeth rywiol a phuteindra
  • Maent yn cael eu carcharu yn y bôn, yn cael eu gorfodi i weithio oriau hir dan amodau gwael, ddim yn gallu gadael oherwydd dyled sydd heb ei dalu neu yn ofni trais iddyn nhw eu hunain neu aelodau o'r teulu yn y wlad wreiddiol

Am wybodaeth bellach, cyngor a chefnogaeth edrycha ar yr adrannau am Gyfraith a Hawliau, Iechyd, Arian, Gwaith a Thai. Mae yna nifer o elusennau a sefydliadau yn cynnig help a chefnogaeth i geiswyr lloches, ffoaduriaid a dioddefwyr masnachu mewn pobl.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50